Cordiau a lyrics i Ganeuon Cymraeg

Chwiliwch CordiauAmdanom

Un diwrnod, roeddwn i’n ista efo’n gitar yn strymio, ag yn defnyddio gwefan Saesneg i chwilio am gordiau can Saesneg, pan daeth blys i chwarae can Gymraeg.

Awr wedyn, roeddwn i wedi laru ar chwilio, a dim ond wedi ffeindio lyrics caneuon.

Awr yn bellach, roeddwn i wedi taro gwefan syml at ei gilydd i gyhoeddi cwpwl o gordiau caneuon roedd gen i wedi ei ‘sgrifennu lawr ar bapur.

Profodd hyn yn weddol boblogaidd, a dyma ni heddiw!